Ymateb y Llywodraeth: Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2024

 

Pwynt Craffu Technegol 1:

Ychwanegwyd Comisiynydd Plant Cymru at yr Atodlen o gyrff dynodedig yng Ngorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018 gan erthygl 2 o Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2021. Fel y cyfryw, effaith Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2024 oedd dynodi 4 corff newydd yn unig: FWC IFW Debt GP Limited, FWC SWIF Debt GP Limited, NE Commercial Property (GP) Limited a Chorff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru.

Pwynt Craffu Technegol 2:            

Mae’r Llywodraeth yn nodi’r mân anghysondeb y tynnir sylw ato ond mae o’r farn nad yw’n esgor ar unrhyw gamddealltwriaeth.

Pwynt Craffu ar Rinweddau 3:

Mae’r Llywodraeth yn nodi’r mân anghysondeb rhwng y cyfeiriad at ‌“Prif Arolygydd‌ Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru‌” yn y Gorchymyn hwn a Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2023 a’r cyfeiriad at “Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru” mewn deddfwriaeth ddiweddar arall. ‌‌

Ar ôl ystyried yn ddiweddar y mater technegol o ran a ddylai enwau swyddi neu gyrff a sefydlwyd yn ffurfiol drwy gyfeirio at “Ei Mawrhydi”, megis “Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru” gael eu newid bellach wrth gyfeirio atynt mewn deddfwriaeth newydd (neu a oes angen newid enw yn ffurfiol), mae’r Llywodraeth o’r farn y dylai cyfeiriadau at swyddi o’r fath gyfeirio at “Ei Fawrhydi” yn hytrach nag “Ei Mawrhydi” ac y gellir gwneud hyn heb fod angen newid enw yn ffurfiol.

Yn yr achos hwn nid yw’r Llywodraeth yn poeni y gall fod unrhyw amheuaeth ynghylch yr hyn y cyfeirir ato yn y Gorchymyn hwn, ond mae’n nodi’r anghysondeb.